O diar
Gweld bod dau o dimau rygbi Y Chwe Gwlad ag arwydd y cwmni teleffonau symudol 02 yn fawr ar eu crysau - Iwerddon a Lloegr.
Tybed gaiff y chwaraewyr eu temtio i decstio'u bwriadau i'w gilydd yn ystod y gêm?
Wi m gicio
Pas n dod
ac yn y blaen . . .
Neu anfon negeseuon bygythiol i'r gwrthwynebwyr?
Neu anfon lluniau adref o berfeddion y sgryms?
Trueni am Gymru, heb ffôn, fodd bynnag - mor hwylus fyddai hi, i Lee Byrne ffonio neu dectsio i ddweud ydi o ar y cae neu beidio.