91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tristwch tas wair

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:13, Dydd Gwener, 22 Ionawr 2010

Ni fu gwell Miss Marple erioed ar y sgrin fawr na Margaret Rutherford. Yn wir, nes i'r 91Èȱ¬ ddod o hyd i Joan Hickson fu dim gwell Miss Marple mewn unrhyw gyfrwng.

Ac er i ddwy Miss Marple newydd gael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma methu â gwella ar yr anhygoel Hickson wnaethon nhw fel y dditectyddes ddiniwed ac ofnus ei hymarweddiad ond yn gleddyf daufiniog o athrylith a dur dan yr wyneb.

Clawr Margaret Rutherford: Dreadnought With Good Manners
Miss Marple wahanol oedd un Margaret Rutherford mewn pump o ffilmiau sinema. Dynes dindrwm, wladaidd, mewn siwt frethyn yn edrych nid yn annhebyg i ymgais gyntaf rhywun i godi tas wair neu greu bwgan brain.

O'i dyddiau cynharaf yn actores bu'n dipyn o hen nain ac yn hoff gymeriad ecsentrig ein sinemau. Disgrifiodd ei hun fel dynes gyda wyneb myffin a phum gên.

Fel Dreadnought With Good Manners mae hi'n cael ei disgrifio yn nheitl llyfr sydd newydd ei sgrifennu amdani

Ond yn ogystal â chreu rhai o gymeriadau cofiadwy y sgrin fawr cafodd Margaret Rutherford, fel y gwelwn yn llyfr Andy Merriman, fywyd yr un mor ecsentrig hefyd. Bywyd allai fod yn destun ffilm ei hun gyda chysgod du yn gyfrinach a gadwodd iddi ei hun yn y cefndir hyd ei dyddiau olaf.

Yr oedd ei thad yn llofrudd - wedi lladd ei dad ei hun a oedd yn offeiriad trwy ei daro ar ei ben gyda phot pi-pi.

Gan iddo gael ei ddyfarnu'n orffwyll nis crogwyd ef a threuliodd gyfnod yn Broadmoor. Ganwyd Rutherford wedi iddo gael ei ryddhau ac, a hithau'n dal yn faban, symudodd y teulu i'r India.

Dilynodd trychineb hwy gyda'r fam yn crogi ei hun oddi ar goeden yn yr ardd a bu'n destun pryder i'r actores gydol ei hoes a fyddai hithau'n dioddef o iechyd meddwl. Yn wir, yr oedd yn dueddol i iselder ysbryd o bryd i'w gilydd.

Ydi mae'n stori ryfeddol hanes y wraig gyda'r wyneb chwiogod - a oedd yn gyfnither i Tony Benn, gyda llaw.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.