Pwy piau'r eira?
Mae awduriaeth cywydd Yr Eira y cyfeiriais ato ddoe wedi troi yn destun rhywfaint o drafodaeth.
Ai Dafydd ap Gwilyn pia fo ynteu Ieuan ap Rhys ap Llywelyn?
D J Bowen yn Barddoniaeth ur Uchelwyr yn ei briodoli (gyda marc cwestiwn) i Ieuan ap Rhys ap Llywelyn ac ef hefyd y mae'r Prifardd Twm Morys yn ei ffafrio yn rhifyn Ionawr 15 2010 o'r Cymro ond gan ychwanegu'r gair "efallai".
Hywel Gwynfryn yn ei blog ar y wefan hon, yn mynd am Dafydd ap Gwilym, fodd bynnag, gan fy nghyfeirio at fynegai y Llyfrgell Genedlaethol ei hun lle nodir y ffynhonnell fel GDG 67.
Beth yw'r ateb i'r dryswch, felly?