Dyfyniadau
Ar ddydd Gwener - ail fyw'r wythnos drwy trwy flasu rai o'r pethau a ddywedwyd gan wahanol bobl. A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys â ni.
- Yng Nghymru rydym ni'n creu digon o gelfyddydwyr a phobl broffesiynol, dalentog, ond prin yw'r tân sydd yn y boliau a phrin yw'r bobl fel Hywel Teifi sydd â'r gallu i herio'r hyn ry'n ni ei weld o'n cwmpas a'i ddadlennu am yr hyn yw e, boed yn lwfrdra neu daeogrwydd nodweddiadol - Lefi Gruffudd yn y Western Mail.
- Teimlaf ei bod hi'n amser da i mi ollwng yr awenau, ac edrychaf ymlaen at gael mwy o amser gyda fy nheulu yn ôl yn y gogledd - Cefin Roberts yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
- Dydw i jyst ddim yn deall. Rwy'n mynd i siopau eraill yn fy mhyjamas a dydyn nhw'n dweud dim Mae gen i bar del o byjamas efo eirth a phengwins arnyn nhw - Elaine Carmody, 24 oed, wedi i Tesco ar gyrion Caerdydd wahardd pobl sy'n siopio yn eu pyjamas.
- Mae' ddiangen, yn afiach ac yn lledaenu jyrms - Paul Flynn AS am yr arferiad o ysgwyd llaw.
- Pe byddwn i'n 75 fyddai ddim cymaint o wahaniaeth gen i. Fe fyddwn i'n dweud, 'Cymrwch fi'. Ond rwy'n 34. Mae fy mhlant yn ddeg, saith ac 17 mis. Dydi fy merch fach newydd ddim wedi'i geni hyd yn oed. Rydw i eisiau'u gweld nhw i gyd yn tyfu - John Hartson yn wynebu triniaeth bellach yn ei frwydr yn erbyn canser.
- Mae bron i hanner y rheiny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn tlodi difrifol - Andrew Chalinder, mudiad Achub y Plant yng Nghymru.
- . . .llais parchus, corff ystwyth dawnswraig a hunanfeddiant llwynogaidd - y New York Times yn disgrifio perfformiad cyntaf Catherine Zeta -Jones ar Broadway.