Campau Orig
Yr oedd bore Gwener yn fore y byddwn yn edrych ymlaen ato yn ystod fy nhymor yn olygydd Y Cymro.
Dyma'r bore y byddai Orig Williams yn ffacsio ei golofn wythnosol a byddai cryn edrych ymlaen i weld "pwy neu be sydd dani gan Orig heddiw tybed."
Yn ddieithriad byddai, a defnyddio un o'i hoff eiriau ei hun, yn rhychu gwirioneddau mawr. Yn ei dweud hi fel y mae heb flewyn ar ei dafod. Yn llawn arabedd a hwyliogrwydd heb ofni neb.
Er gwaetha'r enw oedd ganddo am fod yn greadur gwyllt, afreolus ac anystywallt yr oedd yn gyfrannwr cydwybodol - mor brydlon a'r cloc gyda'i 'gopi' ac yn ddiffael yn un â'i air.
Yr oedd yn sgwennwr deheuig a diddan a'i rinwedd mawr i mi oedd eich bod yn clywed llais Orig yn ei sgrifen. Dyna pa mor naturiol ei arddull - ac ar ei phen ei hun.
Yr oedd mor fyw ar bapur go brin y byddai angen enw wrth ei gyfraniad i adnabod 'Colofn Orig'.
Yr oedd yn brothio o hiwmor a ffraethineb ac o ddywediadau a throadau ymadrodd naturiol y Gymraeg yn ei godidowgrwydd. Cwn rhech a dynion gwellt oedd y myrdd diasgwrn cefn na fyddent yn sefyll yn gadarn dros egwyddorion.
Wedi noson alaethus i Gymru ar faes pêl-droed neu rygbi byddai'r "bleinds i lawr unwaith eto".
"Calon dryw bach," fyddai gan y cachgwn.
Yr oedd ei iaith mor gyhyrog a'i gorff ac yntau'n falch o'i defnyddio yn ei holl odidiowgrwydd.
"Mi fydda i wastad yn diolch 'mod i'n medru siarad Cymraeg ac yn medru dallt a mwynhau ei barddoniaeth hi. Mae'n saff gen i nad oes 'na iaith arall yn y byd gyda chymaint o deimlad y tu ôl i'w geiriau hi," meddai yn ei hunangofiant, Cario'r Ddraig a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch.
A dyna'r ddeuoliaeth hyfryd - adyn gwyllt y sgwar reslo a chanddo bob amser ddegau o ddyfyniadau barddoniaeth gain Gymraeg ac emynau at ei alw i grynhoi neu atgyfnerthu ei deimladau gyda Chynan ymhlith y mwyaf dyfynadwy o feirdd yn ei olwg ef.
Dau a'r un rhwyddineb iaith yn rhan o'u cyfansoddiad.
Yr oedd ganddo glust a llygad i'r trawiadol a chyda'r amlaf dan ei lach yng ngholofnau'r Cymro fyddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru - y Welsh FA - ac yntau o'r farn bendant mai cynrychioli yr oedd y llythrennau FA yn yr enw union swm gwybodaeth y gymdeithas am y gêm!
Er mai fel reslar yr oedd o fwyaf adnabyddus bu'n bêl-droediwr grymus a hefyd yn baffiwr a fu'n ymarfer ei gamp, heb ei lorio unwaith medda fo, mewn bythau ffair.
Ond trodd ei gefn ar y gamp honno gan ddweud y gallai unrhyw un fod yn focsar ond bod angen dyn i fod yn reslar.
Talp o wladgarwr oedd Orig a'r gwladgarwch hwnnw yn deillio o'i frogarwch angerddol. Yr oedd 'Sbyty' - Ysbyty Ifan - yn bopeth iddo a Llansannan wedyn - ei "ddewis fro" chwedl yntau.
Llansannan yw fy newis fro
A melys i mi yw byw,
Crwydrais am oes lle mynnais fy hun,
Caf farw lle mynno Duw meddai yn ei hunangofiant a gyhoeddwyd gymaint yn ôl a 1985. A dyna fu, yn llawer rhy gynnar, yr wythnos hon.
Er iddo deithio i bellafoedd byd a sefyll mewn sgwariau reslo yn wynebu'n eofn sawl gwrthwynebydd o sawl hil doedd o ddim yn un i wneud môr a mynydd ffuantus o adael Cymru a chyfrif bendithion sentimental troi'n alltud i eangu gorwelion.
Yn Cario'r Ddraig dywed yn onest:
"Gwir neges y llyfr 'ma - os oes 'na neges hefyd - ydi nad ydw i ddim callach wedi bod yn yr holl lefydd, ac wedi gweld yr holl drugareddau, na phe taswn i wedi treulio fy oes gyfan yn fy ardal enedigol, heb symud cam ohoni."
Efallai na wnaeth y lleoedd pell yr un argraff fawr arno fo ag a wnaethant ar eraill ond un peth sy'n sicr fe wnaeth o ei hun argraff ar bawb â'i cyfarfu.
Bydd yr hanes am Orig Williams, El Bandito, yn parhau tra bydd straeon yn cael eu hadrodd - y rhychwr gwydn a hoffai flas barddoniaeth yr adyn anwleidyddol gywir a wareiddiwyd gan ei wraig, Wendy, meddai, y cawr cydnerth a feddyliai'r byd o'i deulu a'i fro a'i wlad.
Anfonwch eich atgofion chi . . .