Chwilio am y cyffro nesaf . . .
A dyma hi'n ddiwedd y byd unwaith eto. Y dydd o'r blaen bum yn gweld y ffilm 2012. Ffilm sy'n fwrlwm o lawogydd, daeargrynfeydd, ffrwydradau, llifogydd - a dyrnaid o eirch Noah modern ar gael i achub detholion dynoliaeth.
Mae'r ffilm yn hynod am ddau beth:
- Nid syrffed gorboethi bydeang trwy gamddefnydd dyn o'r blaned sy'n cael y bai ond diffyg naturiol ar yr haul.
- Y daeargrynfeydd ysgytwol sy'n disodli a chwalu rhai o wrthrychau ac adeiladau mwyaf eiconig y byd. Maen nhw'n ysgubol.
Crist yr Andes uwchben Rio yn syrthio'n ddramatig i'r llawr; nenfwd enwog y Capel Sistinaidd yn hollti'n ddau reit lle mae bysedd Duw a dyn ar fin cyffwrdd a dinas Los Angeles yn chwalu o'n blaenau a mynyddoedd yn rhwygo a chwympo.
Ond eto. Er mor drawiadol y golygfeydd hyn dydy nhw ddim yn cyffroi ac yn peri y rhyfeddod fyddech chi'n ei ddisgwyl. Nid fel roedden nhw a rhyw 'Dyna fo, da iawn,' fu ymateb cynulleidfaoedd.
Hynny, wrth gwrs, oherwydd inni weld rheseidiau o olygfeydd tebyg mewn degau o ffilmiau dros y blynyddoedd diwethaf diolch i feistrolaeth dechnegol ddihysbydd ac, yn anorfod, cynulleidfaoedd yn eu derbyn mewn edmygedd digon difater a heb gyffroi rhyw lawer bellach.
A hynny, yn ei dro, yn gwneud i rywun holi; Beth andros all gwneuthurwyr ffilm ei wneud nesaf i gyffroi pobl?
Ydyn nhw wedi cyrraedd pen draw eu gallu i gyffroi - ynteu ai'r cam nesaf fydd teimlo'r dyfroedd o amgylch ein traed yn y sinema a chwithau'n gorfod rhuthro adref er mwyn newid i ddillad sych?
A chuddio dan ein seddau dan gawodydd o fwledi!