91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beiro'r bêl

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:42, Dydd Iau, 19 Tachwedd 2009

Hyd yn oed ymhlith y rhai hynny nad oes ganddyn nhw ddiddordeb mawr mewn pêl-droed mae yna edrych ymlaen at hunangofiant un pêl-droediwr a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer y Dolig.

Mae Malcolm Allen yn un o gymeriadau'r gêm ac yn sylwebydd bachog a diflewyn ar dafod ar radio a theledu.

Ac er yr holl flynyddoedd oddi cartref heb erioed golli na iaith nac acen bro ei febyd ar lethrau Gwaun Gynfi.

Naturioldeb di-lol a digwafars ei Gymraeg sy'n plesio rhai ac fe ddywedwn i y bydd rhai o'r rheini yn cael eu synnu pa mor wahanol ydi Malcolm y siaradwr i Malcolm y sgwennwr.

Clawr y llyfr

Fel sgwennwr mae mor gyfarwydd â W J Gruffydd ac Ywen Llanddeiniolen ag yw â Gazza.

Yn wahanol i ambell i lenor, hyd yn oed, gŵyr mai "nid nepell" sy'n gywir i gyfleu bod lleoedd yn agos at ei gilydd a dydi o ddim yn brin o daflu ambell i ymadrodd Lladin o lein ei atgofion i ganol cae yr hunangofiant - er yn cyfaddef ei hun na wnaeth fawr o farc mewn unrhyw bwnc yn ei arholiadau TGAU yn yr ysgol.

"Roedd Malcolm Allen - centre forward - bellach ar y transfer list, a hynny ar ei gais ei hun," meddai yn un lle gan ychwanegu amdano'i hun; "Quo vadis Malce? I ble yr ei di, fab y ffoedigaeth?"

"Et tu Malce," meddai yn ei Ladin gorau mewn lle arall a chyda'i Shakespeare yn fyw yn ei gof mae'n sôn am Idiau Mawrth Millwall.

Mae Malcolm y llyfr yn gyfarwydd hefyd â'n hen, hen, hanes achos pan ddaeth "yn gyhydnos . . . arnaf" yn Norwich mae'n sôn amdano'i hun yn troi "fy ngolygon am y gogledd, am diriogaeth Bryniach ar gyrion teyrnasoedd Rheged a Gododdin yr Hen Ogledd gynt ac am Newcastle United un o glybiau pêl-droed enwoca'r byd."

A thua diwedd y llyfr mae atgof hyfryd o'i fam:

"Trwy'r tawch yn y pellter gwelwn fy nghartref a Mam yn y drws yn pletio'i ffedog cyn ymhŵedd â'i llaw arnaf yn arwydd bod swper yn barod."

A gwêl hefyd, yn nrych ei feddwl, ei hun yn fachgen "yng nghefn y Coparet . . . 'yn y gwyll yn ymgolli'" gyda'i bêl.

Fel pob hunangofiant da mae Hunangofiant Malcolm Allen yn rhoi golwg newydd ar ei wrthrych. Yn creu adnabyddiaeth newydd ohono ac fe allai ddychmygu sawl un o'i hen ffrindiau yn Llanbabo yn dweud mewn rhyfeddod, "Pwy fasa'n meddwl" y byddai o'n troi allan yn gystal sgwennwr!

Wel, o leiaf y rhai hynny nad ydynt wedi sylwi ar y geiriau "gyda Geraint Jones" ar ddalen deitl y llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi.

Y fo yn siwr o fod yn adnabod y "dyn mawr o Drefor" a ddisgrifir ar dudalen 21 yn galw yn ysgol y Malcolm ifanc "i recriwtio dysgwyr ar yr offerynnau pres"?

Efallai i'r athro cerdd teithiol fethu yn hynny o beth ond diawch mi gafodd o ddylanwad ar Gymraeg ysgrifenedig yr hogyn!

sy'n cyhoeddi'r llyfr, gyda llaw, ac mae o werth pob ceiniog o faint bynnag maen nhw'n i ofyn amdano fo.
Cup class.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:02 ar 19 Tachwedd 2009, Owen Wyn ysgrifennodd:

    Swnio fel bod pobol Llanbabs yn mynd i orfod mynd i'r geiriadur yn aml wrth ddarllen hwn.

  • 2. Am 22:17 ar 19 Tachwedd 2009, Josgin ysgrifennodd:

    Heb golli acen Llanbabs, ond wedi ennill yr acen Cocni rhyfeddaf ar ei Saesneg. Y darlledwr gorau yn y Gymraeg . Mi fuasai hwn yn gallu gwirioni ar baent yn sychu!

  • 3. Am 00:14 ar 20 Tachwedd 2009, Trefor ysgrifennodd:

    Yn fy marn i roedd y Lolfa yn anghyfrifol yn caniatau i Geraint Jones fod yn rhith-awdur (ghost-writer) hunangofiant Malcolm Allen. Rhwydd hynt i Geraint Jones ysgrifennu yn ei arddull rwysgfawr a chwyddedig pan fydd yn ysgrifennu fel fo'i hun ond roedd arno gyfrifoldeb i gyfleu cymeriad Malcolm Allen yn y llyfr hwn. Trwy fynnu ysgrifennu yn yr arddull ffuantus hon mae'n dangos diffyg parch at Malcolm Allen a diffyg parch at ei gynulleidfa. Dylai'r Lolfa fod wedi mynnu ei fod yn ei ailysgrifennu - yn gall.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.