Wrth wylio Butch a Newman
Dangoswyd o leiaf ddwywaith ar y teledu dros y Sul y ffilm Butch Cassidy and the Sundance Kid - un o hoff ffilmiau sawl un ohonom.
Er mai'r llygatlas Paul Newman sy'n chwarae Cassidy yn y ffilm ar gyfer rhan Sundance y dewiswyd ef yn wreiddiol - nes i'r un mor llygatlas Robert Redford gael ei ddewis yn Sundance a chreu un o bartneriaethau mwyaf eiconig y sinema Americanaidd wrth i'r ddau ddihiryn yn y byd go iawn gael eu rhamanteiddio'n arwyr mewn chwedl.
O'r ddau maen nhw'n dweud mai Newman, a fu farw'n 83 oed fis Medi y llynedd, oedd y mwyaf cysetlyd a chyn dechrau ffilmio gofynnodd i'w wraig wneud sampler yn arbennig i'w chyflwyno i Redford gyda'r geiriau "Prydlondeb yw cwrteisi brenhinoedd" arni.
Mae'r stori honno mewn cofiant sydd newydd ei gyhoeddi gan Shawn Levy, Paul Newman : A Life flwyddyn union ers ei farwolaeth.
A'r darlun a gawn yw o ddyn agos iawn, iawn, i'w le a chanddo gydwybod cymdeithasol hynod effro.
Yn sgil llwyddiant Butch Cassidy and the Sundance Kid sefydlodd yn 1988 y Paul Newman's Hole in the Wall Gang Camp yn cynnig gweithgareddau i 15,000 o blant rhwng saith a 15 oed yn dioddef o ganser ac anhwylderau difrifol eraill.
Roedd hefyd yn un o sefydlwyr cwmni bwyd Newman's Own yr oedd ei holl elw yn cael eri rannu rhwng elusennau.
Ac wedi marw ei fab Scott, o'i briodas gyntaf, yn dilyn anghaffael â chyffuriau sefydlodd y Scott Newman Centre for Drug Abuse.
Yr oedd yn ddyn egwyddorol iawn hefyd ac ar gychwyn ei yrfa gwrthododd awgrym un cyfarwyddwr dylanwadol y dylai newid ei enw i un llai Iddewig.
Er iddo fod yn briod ddwywaith yr oedd ei briodas hirhoedlog a Joanne Woodward yn rhan o chwedloniaeth Hollywood wedi parhau o Chwefror 1958 tan ei farwolaeth.
Fe fu yna sibrydion o 'grwydro' - yn ystod ffilmio Butch Cassidy er enghraifft - ond ei ymateb ffraethaf ef i'r cyhuddiadau hynny oedd: "Pam mynd allan am hambyrger a chwithau â stecen yn y tŷ!"
Fo hefyd ddywedodd fod pobl yn aros yn briod "oherwydd eu bod nhw eisiau nid oherwydd bod y drysau wedi'u cloi"!
Yn ôl ei gofiant yr oedd yn actor cydwybodol tu hwnt yn ymaflyd ei hun i'r gwahanol rannau. Hynny, yn ogystal â bod yn un o actorion mwyaf golygus Hollywood .
Yn wir, dywedodd ei fam amdano ei bod yn rhywfaint o drueni i'r fath brydferthwch gael ei wastraffu ar fachgen!
Ac at y llygaid glas yna y cyfeiriodd yntau, ei hun, wrth lunio beddargraff dychmygol ar ei gyfer ei hun:
"Yma y gorwedd Paul Newman a fu farw'n fethiant oherwydd i'w lygaid droi'n frown!"