Nefi bliw - am newid!
Wedi imi dynnu sylw ddoe yn Grymoedd Golygyddol at ffrae golygu a newid gweithiau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol cyn eu cyhoeddi tynnodd cyfaill fy sylw at erthygl yn y Times ddydd Sadwrn diwethaf, Medi 26 2009.
Erthygl yw hi am Raymond Carver un o awduron mwyaf blaenllaw yr Unol Daleithiau ac un y mae sgrifenwyr creadigol ifainc yn baglu ar draws ei gilydd i'w ddyrchafu a'i efelychu.
Rhinwedd arbennig Carver fel awdur oedd ei gynildeb a'i ddarbodusrwydd gyda geiriau. Arddull a ddaeth i gael ei hadnabod fel un "Less is more" ac yn un y mae sgrifenwyr ifainc yn cael eu hannog i'w hefelychu trwy naddu eu cynhyrchion i'r fath raddau nad oes gair na choma y gellid eu hepgor o'r 'campwaith' gorffenedig.
Mewn casgliad o straeon byrion dan y teitl gwych What We Talk About When We Talk About Love y dangosodd Carver ei ragoraeth gyntaf - ond erbyn hyn y mae'n wybyddus, fel y dengys Toby Litt yn ei erthygl yn y Times, nad Carver ond ei olygydd sy'n gyfrifol am ardderchowgrwydd cynnil y straeon hyn.
Ar ôl bod trwy law y golygydd, Gordon Lish, nid oedd y gyfrol a gyhoeddwyd ac a ddaeth a chymaint o fri i Carver ond hanner maint y teipysgrif gwreiddiol.
Nid yn unig hynny Lish biau'r teitl trawiadol hefyd wedi ei dynnu o un o'r straeon.
Ac ef gyda'i bensil las newidiodd nid yn unig deitlau rhai o'r straeon ond enwau cymeriadau a diwedd a naws rhai straeon.
Er i'r holl newid frawychu Carver i ddechrau caniataodd gyhoeddi'r llyfr fel y'i golygwyd gan Lish a thrwy hynny y dyrchafwyd Carver yn eilun cenedlaethau o sgrifenwyr ers yr Wythdegau.
"Nid gormodedd yw dweud fod Carver yn sgrifennwr rhyddiaith mwyaf dylanwadol ac uchaf ei barch y chwarter canrif ddiwethaf. Yn cael ei ddyrchafu'n aml yn sant neu hyd yn oed dduw," meddai Toby Litt sy'n diwtor ysgrifennu creadigol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain.
Sgrifennodd ei erthygl i gyd-fynd a phenderfyniad gweddw Carver, a fu farw yn hanner cant oed ym 1988, i gyhoeddi'n awr y straeon yn union fel y bwriadai ei gŵr iddynt ymddangos fel y gall darllenwyr benderfynu eu hunain ai bendith ynteu melltith fu pensil las Lish.
Y farn yw mai bendith fu hi a hynny yn wyneb y ffaith na chyflawnodd Carver, medden nhw, gystal gwaith wedi iddo dorri ei gysylltiad â Lish.
Ac yn y cyswllt Cymreig, un peth sy'n sicr, byddai fflyd o olygyddion "less is more" yn wir werth eu halen - ond mwy am hynny rywdro eto.