Pobol Nia
Nia Lloyd Jones yn blogio o gefn y llwyfan yn Y Bala
Dydd Sadwrn
Diwrnod y bandiau, a phawb yn andros o smart yn eu lifrau pwrpasol - heblaw am Osian druan o Fand Y Drenewydd gyrhaeddodd yr Eisteddfod a sylwi ei fod wedi anghofio ei drowsus! Diolch byth fod ganddo ffrind yn Y Bala (Tomos) oedd yn fodlon rhoi menthyg pâr iddo!
Gwallt gorau
Mae'r wobr am y gwallt gorau ddydd Sadwrn yn mynd i Robin - aelod o dîm offerynnau taro Band Deiniolen. Dwi'n hoff iawn, iawn, o wallt cyrliog ac roedd Robin a'r cyrls yn bownsio yn ystod perfformiad y band!
Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu llwyddiant, ac i Gavin Saynor - sydd hefyd wedi llwyddo i golli pum stôn dros y misoedd diwethaf!
Teuluol
Roedd na thema deuluol iawn yn ystod cystadleuaeth y côr cymysg gyda Chôr Godre'r Garth dan arweiniad Elir Owen Griffiths yn cynnwys wyth aelod o'i deulu - ac yn eu plith ei rieni yng nghyfraith!
Ai peth doeth neu beryg oedd hyn? Wel doeth iawn yng ngolwg y beirniaid gan iddyn nhw dderbyn y wobr gyntaf.
Côr Rhuthun oedd yn ail - dan arweiniad Robat Arwyn, ac yn rhyfedd ddigon roedd ei chwaer a'i nith yn canu yng Nghôr Godre'r Garth hefyd!
Dydd Sul
Gwledd o gerddoriaeth wrth i 12 o gorau ymddangos ar y llwyfan. Roedd o fel un cyngerdd mawr a braf oedd cael sgwrs hefo Owen Saer - arweinydd Bechgyn Bro Taf - côr oedd yn gwir fwynhau ei hunan ar y llwyfan.
Côr arall o'r brifddinas ydi CF1 - ac yn eu plith oedd Eifiona - yr unig ferch hyd yma i wisgo 'leggings' pinc ar y llwyfan! Elen Hughes ydi arweinydd Adlais ac mae hi'n rhoi genedigaeth mewn saith wythnos ond mae'n debyg bod y babi yn cicio fel 'randros ar y llwyfan heddiw ... babi cerddorol iawn felly!
Gwobr gwallt
Nôl at y gwallt cyrliog ac mae'r wobr am y gwallt gorau heddiw yn cael ei rhannu rhwng dau sef Ianto o Bechgyn Bro Taf - sydd hefyd yn aelod o'r band Nos Sadwrn Bach - fydd yn ymddangos yn Maes B ddiwedd yr wythnos, a Dylan Llyr sy'n aelod o Côr Dre , ac a oedd yn ymddangos ar y llwyfan mawr am y tro cyntaf erioed!
Cystadleuaeth dda - o ran y canu ... a'r gwallt!