Pebyll y cyfamod
Tan ddoe sylweddlais i ddim bod yna gymaint o barch yn parhau tuag at y Sul Cymreig.
Allai ddim meddwl am unrhyw reswm arall pam bod cymaint o stondinau ar y maes heb eu hagor.
Yn eu plith yr oedd pabell y wasg efengylaidd - Gwasg Bryntirion - sydd yn gwerthu dim byd ond llyfrau Cristnogol a Beiblaidd!
Mae'n siŵr o fod yn bwynt y gallai diwinyddion ac athronwyr ddadlau'n hir amdano - A yw hi'n bechod gwerthu llyfrau Cristnogol a Beiblau ar y Sul?
Bu bron imi a throi i Babell yr Eglwysi i ymneilltuo a dwys fyfyrio am y peth. Roedd honno yn agored.