91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nodiadau Nia - diwedd wythnos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 12:05, Dydd Mawrth, 11 Awst 2009

Trydydd cyfraniad Nia Lloyd Jones o gefn llwyfan Eisteddfod Y Bala.

Nia Lloyd Jones efo Rhys MeilyrDYDD GWENER
Mi wnes i dreulio'r pnawn yn eistedd yn y stiwdio yn lle Hywel Gwynfryn unwaith eto.

Nôl i gefn llwyfan ar gyfer y cystadlu - nos Wener, a chael sgwrs ddifyr iawn yn gyntaf hefo Tomas Mac Aodh Bui o Waterford yn Iwerddon.

Mae Tom wedi dysgu Cymraeg ers rhai blynyddoedd bellach ac yn siarad Cymraeg hefo tinc Wyddelig gynnes.

Cafodd o ei urddo heddiw ac mae ganddo enw da hefyd, Twm Ap Huw Aur - sydd yn gyfieithiad llythrennol mae'n debyg o'i enw. Tom ydi cyflwynydd tairieithog yr Å´yl Ban Geltaidd.

Roedd 'na ddathlu mawr yn y pafiliwn pan ddaeth canlyniad y Côr Cerdd Dant, a Chôr Llangwm yn derbyn y wobr gyntaf.

Rhian Jones oedd yn gyfrifol am hyfforddi'r côr ac yn naturiol roedd hi a'i gŵr Dewi yn emosiynol iawn, a Dewi wedi colli ei dad yn ddiweddar - Emrys Jones Penbont.

Roedd prif stiward yr Eisteddfod - Alun Puw yn cystadlu ar y llwyfan mewn côr llefaru.
Dyma ichi ddyn prysur - sydd wedi arwain tîm gweithgar o stiwardiaid drwy'r wythnos ac yn llwyddo i ffeindio bwlch i ddod i gystadlu hefyd!

Mae'n debyg bod Côr Gwerin Y Bala a'r Cylch wedi gorfod ymarfer ar y stryd neithiwr gan fod cymaint o brysurdeb yn y dref a dim adeilad ar gael.

Felly bu'n rhaid ymarfer tu allan i gartref Nia Morgan, ond fe dalodd yr awyr iach ar ei ganfed a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar ddod i'r brig.

Dydd Sadwrn
Diwrnod y corau meibion. Pwy ddylech chi ei gefnogi os oes gennych chi un mab yn canu hefo Côr Meibion Llangwm ac un arall yn canu hefo Côr Meibion Taf?

Dyna benbleth Mrs Jones yn Llangwm. Roedd Aled yn canu hefo Côr Llangwm a'i frawd Gwynfor gyda Meibion Taf!

Yn sicr mae Llangwm wedi cael wythnos wych, ac fe barhaodd y llwyddiant heddiw yng nghystadleuaeth y Rhuban Glas.

Daeth Trebor Lloyd Evans oddi ar y llwyfan a dweud wrtha i ei fod wedi mynd yn rhy hen i gystadlu ond nid dyna farn y beirniaid a llongyfarchiadau mawr iddo ar ennill y gystadleuaeth honno. Diwedd campus i'r wythnos!

A dyna ni! Steddfod arall yn dirwyn i ben. Diolch i bawb fu mor barod i sgwrsio, a hynny gan amlaf eiliadau ar ôl iddynt ddod oddi ar y llwyfan!!

Welwn ni chi yng Nglynebwy!

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.