91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Meistr parcio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:18, Dydd Sadwrn, 1 Awst 2009

Dywydd fel hyn gyda stiwardiaid y meysydd parcio mae fy nghydymdeimlad i.

Wn i ddim pwy yn union sydd mewn gofal o barcio yn Y Bala ond pwy bynnag yw - a chyn gystled yw - rwy'n teimlo i'r Steddfod golli cyfle peidio a gwahodd Gwilym Euros Roberts i ysgwyddo'r baich yn enwedig gan fod y Blaenau yn nalgylch yr Å´yl.

Nid yn unig mae o wedi dangos dycnwch arbennig ynglŷn â pharcio yn ddiweddar ond wedi profi hefyd y gall o dynnu llun cerbydau troseddwyr a throi 'trosedd' yn yn bwnc trafod a llythyru mewn papur newydd.

A dwi'n siŵr y byddai o wedi trefnu cornel glud - a chlyd hefyd siŵr o fod - i Ddafydd Iwan adael ei gerbyd ar gyfer cyngerdd Sain yn ddeugain oed nos Lun.

Gallem weld gwawrio Oes Eur Parcio Taclus!


91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.