Diwrnod darllen
Be wnewch chi heddiw?
Eistedd yn y tÅ· yn darllen?
Dyna ddylech chi fod yn ei wneud - gan mai fel diwrnod i wneud hynny'n benodol y cyflwynwyd y diwrnod hwn o ŵyl gan yr aelod seneddol Rhyddfrydol Syr John Lubbock yn 1871.
Ei fwriad ef gyda'i Fesur Gŵyl Banc - Bank Holiday Act - oedd neilltuo amser i weithwyr cyffredin dreulio'r diwrnod yn darllen ac yn 'gwella eu hunain'.
Ond nid felly'n union y bu hi ac yn lle aros adref gyda'u trwynau mewn llyfr beth wnaeth y tacla ond manteisio ar y diwrnod i'w hel hi am y glannau moroedd ac i ymblesera a llyfrau a darllen y pethau pellaf o'u meddwl.
Yr oedd Lubbock yn un a roddai bwys mawr ar lyfrau. Disgrifiodd nhw fel cyfrwng i gludo dyn i bob math o leoedd astrus.
"Gallwn eistedd yn ein llyfrgell a bod ar yr un pryd yn unrhyw ran o'r byd," meddai yn un o'i lyfrau gan ymfalchio y gall ystafell fechan o lyfrau fod yn gyforiog o gyfoeth anhraethol.
Yn eistedd mewn tagfa draffig heddiw neu'n mochel rhag cawod dan rhyw fargod; meddyliwch gymaint brafiach fyddai hi wedi bod pe byddem wedi gwrando ar Lubbock - banciwr wrth ei alwedigaeth ond yn un a diddordeb angerddol ym myd natur - yn arbennig pryfetach fel morgrug a gwenyn - ac mewn archaeoleg.
Dywedir bod un o'i lyfrau, Pre-historic Times, as Illustrated by Ancient Remains, and the Manners and Customs of Modern Savages, yn un o rai mwyaf dylanwadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei faes.
Yn wahanol i'r drefn bresennol Llun cyntaf mis Awst oedd dydd gŵyl y ddeddf y bu e'n gyfrifol amdani gyda'r bwriad o fanteisio ar y tywydd gorau posib - er, pam bod angen diwrnod braf i ddarllen dydw i ddim yn deall yn iawn.
Yr oedd hi'n 1965 pan benderfynodd y Senedd yn Llundain symud y dyddiad i ddiwedd y mis fel ag y mae yn awr.
Anodd meddwl beth fyddai Lubbock a oedd yn AS Maidstone pan gyflwynodd ei ddeddfwriaeth, yn ei feddwl o'n syniad ni heddiw o wyliau banc.
Yn ei ddydd crynhowyd ei syniadau ef yn y rhigwm hwn:
How doth the Banking Busy Bee
Improve his shining hours?
By studying on Bank Holidays
Strange insects and wild flowers.
Peryg mai trwy ffenest car yn llusgo'n araf y byddai'n gwneud hynny heddiw.
Byddai'n fendith inni gyd aros adref i ddarllen.