91热爆

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Chwerthin? Roeddwn i'n meddwl na fyddwn i byth yn dechrau

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Glyn Evans | 20:45, Dydd Iau, 27 Awst 2009

Yn yr Alban ddechrau'r wythnos a gweld fod j么c gan ein Rhod Gilbert ni ymhlith deg o rai gorau yr Edinburgh Fringe.

Yn ffodus, mae hi'n cyfieithu'n weddol ddidrafferth i'r Gymraeg - rhywbeth nad yw'n digwydd yn aml iawn gyda j么cs.

Ta beth, dyma ddweodd Rhod: "Gwesty sba? Mae'n union fel pob gwesty arall ond bod yna lun carreg o wely afon yn y dderbynfa."

I arbed trafferth ichi, "pebble" ddywedodd o. Fel yr awgrymais i dim ond ff诺l fyddai'n ymgymryd 芒 chyfieithu j么cs.

Cyn dewis y j么c yna gwrandawodd naw beirniad ar gyfanswm o 3,600 munud o gomedi yn yr 诺yl a hidlo 7,200 o j么cs ar gyfer rhestr fer o 27 y byddai pobl fel chi a fi yn pleidleisio iddyn nhw.

J么c gan Dan Antopolski ddaeth i'r brig a chan nad ydi hi, yn fy marn i, yn arbennig o dda yn y Saesneg gwreiddiol wn芒i ddim gwneud mwy o gam 芒 hi trwy ei chyfieithu er mai ond wyth gair sydd iddi:

"Hedgehogs," meddai, "why can't they just share the hedge?"

Rwy'n si诺r y cytunwch, os mai dyna'r orau rhad ar yr un ddaeth yn 7, 200 ar y rhestr!

Yr un ddaeth yn ail oedd orau gen i o'r deg uchaf, gan Paddy Lennox:

"Yr oeddwn i'n gwylio marathon Llundain," meddai, "a gweld un rhedwr wedi ei wisgo fel i芒r a rhedwr arall fel wy. Wel, meddyliais, mi all hyn fod yn ddiddorol."

Roeddwn i'n eithaf hoffi sylw Marcus Brigstocke hefyd:

"I'r rhai hynny ohonoch sy'n berchen iPhone - dim ond wedi'i brynu fo ydy chi nid ei ddyfeisio."

Yn rhyfedd iawn doedd y j么c a dybiwn i yr orau o'r rhai y darllenais ddim hyd yn oed ymhlith y deg uchaf

"Mae 'na lot o bobol yn fy nghyhuddo i o fod yn hunanol - ond dyna ddigon amdanyn nhw . . ."

Ta waeth, un peth ddaeth yn amlwg iawn i mi wrth ddarllen am y dethol a'e didol; dydi Caeredin ddim yn lle y byddech chi'n teithio o bell iddo i glywed j么cs.

Clywais well yn ein steddfod fach ni.
Chwithau hefyd, si诺r o fod - ac os ydych chi am rannu - wel anfonwch, nawr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:47 ar 27 Awst 2009, owen wyn ysgrifennodd:

    Dilwyn Morgan wrth y criw oedd yn disgwyl i'r baryn godi i groesi'r ffordd i'r Eisteddfod yn Y Bala un bore:
    "Gwenwch! Ddim at y deintydd dach chi'n mynd ond i'r Steddfod."
    Sylw un wag:
    "Mae hi'r un mor ddrud!"

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.