Dyna le . . . Ond lle?
Glynebwy ddwedsoch chi?
Ynteu Glyn Ebwy?
Neu Lyn-ebwy efallai?
Glyn-Ebwy hyd yn oed.
Mae'n ymddangos ein bod ni mewn strach yn barod gydag enw cartref Eisteddfod 2010 - dros flwyddyn cyn y digwyddiad.
Fel Eisteddfod Glyn Ebwy mae'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn cyfeirio ati mewn pamffledi, gohebiaeth ac ar arwyddion.
Ond os trowch chi at y llyfrau enwau lleoedd fe gewch mai Glynebwy yw'r ffurf gywir. Dyna ddywed Y Llyfr Enwau - y geiriadur enwau lleoedd safonol diweddaraf ac yn hynny o beth mae'r awdur, D Geraint Lewis, yn cyd-fynd â Briws sydd hefyd yn cynnig Glynebwy fel y ffurf Gymraeg o Ebbw Vale.
A chyda llaw y ffurf Saesneg yw'r un gysefin gyda'r Gymraeg, am nerwid gydag enwau lleoedd, yn gyfieithiad o'r ffurf honno.
Cyn hynny yr enw Cymraeg gwreiddiol ar y llecyn oedd Pen-y-cae gydag Ebbw Vale yn dod i fodolaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i'r gymdogaeth dyfu o amgylch gwaith haearn a sefydlwyd yn wreiddiol ganol yr 1780au.
Go brin bod angen egluro mai'r ystyr yw, dyffryn afon o'r enw Ebwy.
Sydd bron yn gywir - ond mai Ebwydd neu Ebwyth oedd enw'r afon yn wreiddiol yn ôl y ddau chwilotwr diwyd hwnnw Melville Richards.
Eb, yn golygu ebol a'r elfen gwyth neu gw^ydd, yn golygu ffyrnig neu wyllt a hynny'n peri i Hywel Wyn Owen awgrymu y gallai hynny ddisgrifio'r ceffylau fyddai'n yfed o'r afon.
A chyda llaw, Glynebwy yw ei sillafiad ef a Melville Richards o'r ffurf Gymraeg. Nid Glyn Ebwy, nid Glyn-ebwy, nid Glyn-Ebwy.
Ac yn hynny o beth y mae, Bruce 'Briws' Griffiths a D Geraint Lewis yn cymryd eu harwain gan y gyfrol sydd â'r gair olaf am enwau lleoedd Cymraeg, Rhestr o Enwau Lleoedd - A Gazetteer of Welsh Place-names a olygwyd gan Elwyn Davies ar gyfer y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ac a gyhoeddwyd 1957 gyda rhagair gan Syr Ifor Williams.
Yn y rhagymadrodd hwnnw mae Syr Ifor yn egluro'n fanwl pryd y mae enw lle yn ddeuair, yn ungair lluosillafog neu'n air lluosillafog gyda chysylltnod.
Perthyn Glynebwy i'r categori "unsillaf+lluosillaf" sy'n ufuddhau i'r rheol dim cysylltnod. "Ysgrifenner fel un gair," meddai Syr Ifor.
Lleoedd eraill tebyg yw Brynaman, Brynsiencyn, Ceinewydd; Tyddewi - ac yr oedd yna gamsillafu hwnnw hefyd pan ymwelodd yr Eisteddfod â'r lle rai blynyddoedd yn ôl!
Mae chwe rheol i gyd a dyna pam y cawn yn y Gymraeg amrywiaethau fel Castell-nedd, Llan-faes, Eglwys-wen, Castellnewydd, Pentrefoelas, Ystradmeurig, Tal-y-bont, Gawelod-y-garth, Cerrigydrudion, Rhydyceisiaid ac yn y blaen.
Yn y pen draw mae'r cyfan i'w wneud â'r acen.
Meddai syr Ifor:
"Dilynwyd dwy egwyddor gyffredinol wrth ddiwygio'r enwau. Yn gyntaf, dylid ysgrifennu enwau lloeodd hyd y galler, yn un gair. Yn ail, dylid eu hysgrifennu fel y gellir, wrth ddarllen, eu hacennu'n gywir yn ôl rheolau arferol yr iaith Gymraeg; i sicrhau hyn defnyddir cysylltnodau i ddangos safle'r acen.
"Gwneir eithriad pan geir enw disgrifiadol fel afon, bwlch, cefn, cwm, glyn, llyn, moel, morfa, mynydd, nant etc., yn elfen gyntaf mewn enw ar nodwedd ddaearyddol. Yn y rhain ysgrifennir yr enw disgrifiadol ar wahân, ac felly hefyd gydag enwau lle ceir betws, a capel fel elfen gyntaf pan fo'r fannod yn dilyn."
Yda chi'n gwrando yn y cefn?
"Ond pan fo'r enwau daearyddol hyn yn rhan o enw pentref neu fferm ysgrifennir hwy yn un gair, e.e. Cwm Aman am y cwm ond Cwmaman am y pentref a'r plwyf."
Felly, Glynebwy sy'n gywir ond Glyn Ebwy sy'n cael ei ddefnyddio helaethaf hyd y gellir gweld.
Gan gynnwys y llond ceg o enw llawn swyddogol; "Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau gwent a Blaenau'r Cymoedd yn y Gweithfeydd Glyn Ebwy 2010".
A pheidiwch a cheisio dweud hynna eto - neu fe fyddwch yn hwyr ar gyfer Y Bala . . .
Ond fel y byddan nhw'n dweud yn Private Eye; 'Dyna ddigon am enwau lleoedd. Gol.'
Oni bai fod gennych chi sylw i'w wneud wrth gwrs . . .