Disgwyl dipyn gan Depp a Bale
Mae'n gyfuniad sy'n achosi disgwyliadau mawr. Christian Bale a Johnny Depp gyda'i gilydd mewn ffilm.
Bydd yn rhaid aros tan Orffennaf 3 cyn gweld y naill yn ymlid y llall yn y ffilm am y giangstar Americanaidd John Dillinger.
Depp fydd yn chwarae rhan Dillinger a Bale, yr actor a anwyd yn Sir Benfro, fydd yn chwarae rhan Melvin Purvis y swyddog FBI sydd ar ei warthaf.
Mae'r disgwyliadau yn uchel.
Sylfaenwyd y ffilm, Public Enemies, ar lyfr o'r un enw gan Bryan Burrough yn ymwneud â chyfnod cyffrous gangsters enwog yr Unol Daleithiau a chreu yr FBI yn 1933-34.
Mae hwn yn gyfnod y mae gwneuthuwyr ffilmiau wedi ei odro yr un mor ddeheuig ag y buo nhw'n godro'r Gorllewin Gwyllt.
Ac yn union fel cyfnod saethwyr sydyn y ffilmiau cowboi cyfnod byr iawn oedd un y gangsters hefyd gyda rhai fel Bonnie a Clyde, Pretty Boy Floyd, Baby Face Nelson, Machine Gun Kelly a Ma Barker wedi gwibio megis sêr gwib ar draws ffurfane hanes mewn cwta ddeunaw mis yn ôl Burrogh mewn erthygl yn y Times, ddydd Sadwrn Mehefin 13, 2009.
Hawdd credu o gymryd Hollywood fel eich llyfr hanes iddo fod yn gyfnod llawer hwy gan iddynt ei odro mor drwyadl.
Yn wir, bu Dillinger yn 'arwr' sawl ffilm cyn Public Enemies wedi cael ei chwarae gan Lawrence Tierney yn Dillinger yn 1946; gan Scott Peters yn The FBI Story (James Stewart) 1959.
Yn Dillinger (1973) Warren Oates chwaraeodd y rhan ac yn The Lady in Red (1979) Robert Conrad oed yr actor ac mewn ffilm deledu, Dillinger, yn 1991 Mark Harmon oedd yr arwr.
Yn Dillinger is Dead , 1969, fodd bynnag, defnyddiodd y cyfarwyddwr, Marco Ferreri, glipiau ffilm o'r Dillinger go iawn!
Gelyn ac erlidiwr mawr Dillinger gydol ei yrfa oedd Melvin Purvis a chwaraewyd gan Ben Johnson gyferbyn â Warren Oates ond dywed Burrough nad oedd y Purvis go iawn yn ddim byd tebyg i'r actor cydnerth hwnnw ond yn gorffilyn bychan 29 oed gyda llais main nad oedd y gorau wrth ei waith er yn ddigon cydwybodol.
"Mae'r Dillinger a'r Purvis a welwch yn Public Enemies yn llawer nes at y gwir na'r rhan fwyaf o gangsters sinema diweddar," meddai Burrough yn ei erthygl yn y Times.
Ac yng Nghymru fe fydd yna gymaint o ddiddordeb ym mhortread Christian Bale o Purvis ag a fydd yn un Depp o'r 'arwr' ei hun.
Un peth sy'n sicr; gallwn ddisgwyl rhywbeth o bwys.