Chwilio am adar glân
Y tro nesaf y byddwn yn bwrw'n llach ar wleidyddion a'u costau mae un o olygyddion papurau enwadol Cymru am inni holi adar pa mor lân ydym ni ein hunain!
Mewn colofn 'Gair neu Ddau' ar Y Pedair Tudalen gydenwadol sy'n cael eu rhannu gan rai o'r papurau anghydffurfiol dywed y golygydd, Y Parchedig John Pritchard:
"Mae'r holl drafod a fu ar y costau, a'r holl gollfarnu a fu ar y gwleidyddion yn awgrymu bod yna ryw onestrwydd cynhennid yn perthyn i bobl gwledydd Prydain."
Gan ychwanegu bod yr holl feirniadu yn rhoi'r argraff fod pob un arall ohonom "yn ddilychwin a chwbl onest wrth drafod pob math o arian".
Ond mae o'n amau a yw hynny'n wir a hynny'n peri iddo ein hatgoffa o eiriau'r Iesu am daflu'r garreg gyntaf ar adegau fel hyn.
A holi: ". . . yw pawb arall yn gwbl onest wrth hawlio eu costau teithio, wrth lenwi'r ffurflen dreth, wrth wneud cais am arian oddi wrth y cwmni yswiriant, wrth drefnu bil am waith a wnaed, wrth gymryd diwrnod o'r gwaith, wrth ddefnyddio car y cwmni neu wrth ddefnyddio amser y cyflogwr?"
Na, yn ôl John Pritchard, sy'n weinidog yn Llanberis;
"Cyn rhuthro i gondemnio eraill, mae'n rhaid i bawb ohonom gydnabod ein beiau ein hunain, a bod yn edifeiriol amdanynt. Wedi i ni dynnu'r trawst o'n llygaid ein hunain y bydd gennym obaith i dynnu'r brycheuyn o lygaid rhywun arall.
"Mae angen tynnu sylw at anonestrwydd ac anghyfiawnder, ond mae gymaint haws gwneud hynny pan fo'n calon ni'n gywir tuag at Dduw."
Faint o ddarllenwyr Y Pedair Tudalen ddywedodd "Amen" i hynna tybed? A sawl un deimlodd bang o euogrwydd?