Newid ddaeth . . .
Yn anorfod, a Barack Obama newydd ddathlu ei gan niwrnod cyntaf yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'r ymadrodd Wythnos gwas newydd yn mynnu dod i'r meddwl.
Ond er yr holl orfoledd a disgwyliadau cychwynnol dydi'r gwas newydd ddim wedi plesio pawb - gan gynnwys awdur colofn olygyddol Y Tyst, wythnos olaf Ebrill.
Yn ei sylwadau golygyddol yn newyddiadur Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mae Guto Prys ap Gwynfor yn ein hatgoffa o'r modd y cymharwyd Obama â Martin Luther King.
A sut y bu'r gwleidydd "yn dyfynnu'n helaeth o anerchiadau grymus ac effeithiol y Cristion ymroddgar hwnnw."
Ond yn ystod can niwrnod cyntaf Obama yn ei swydd, dadleua Guto Prys ap Gwynfor mai ychydig iawn a wnaeth yr Arlywydd newydd yn ei swydd i hyrwyddo'r gymhariaeth a King.
"Yn wir y mae'n ymddwyn yn debyg iawn i'w ragflaenwyr yn y Tŷ Gwyn, yn enwedig yn ei bolisïau tramor," meddai.
Mae'n arbennig o feirniadol o bolisïau Obama mewn perthynas ag Affganistan ac Irac gan ddweud:
"Bradychu gwaddol Martin Luther King yw hyn; drwy weithredu'n gwbl groes i'r modd y gweithredodd ef. Sarhad ar yr arwr hwnnw yw bod yr Arlywydd Obama'n defnyddio'i eiriau wrth iddo ar yr un pryd orchymyn dinistrio bywydau a chreu dioddefaint i filoedd o bobol."
Gan ein hannog wedyn i ystyried cyngor y Bregeth ar y Mynydd i ochel "rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus."
Gan brofi y gall can niwrnod fod ganmil hirach nag wythnos mewn gwleidyddiaeth.