Magi Dodd - yn y ffasiwn
Un o'n Blogwyr Gwadd yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon ydi Magi Dodd o 'C2' - ac mae hi wedi bod yn dilyn y ffasiwn . . .
Helo bawb!
Yr wythnos yma, yn lle cyflwyno ar C2 fi yw'r person ffodus yna sydd yn crwydro'r maes yn Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd 2009 ar ran Radio Cymru.
Wrth gwrs, mae yna gystadlu brwd ar lwyfan yr Urdd, ond mae digonedd o bethau I'w gwneud a'u gweld ar y maes yn ogystal.
Yr hyn sy'n fy nenu i yw ffasiwn y maes - ac yn enwedig ffasiwn selebs Cymru yr y maes... beth mae enwogion Cymru yn ei wisgo yn Eisteddfod yr Urdd?
Mi fyddai'n cadw fy llygaid ar agor gydol yr wythnos i weld pwy sy'n gwisgo beth, ac yn gadael I chi wybod - dyma pwy dwi wedi eu gweld mor belled:
Dydd Llun:
- Derwyn Jones (cyn wythwr rygbi Cymru) - cot fleeceddu, a jeans
- Nia Roberts - cot gyda phrint llewpart du a gwyn arni.
- Alun Williams (Stwffio) - crys polo gwyrdd, a jeans.
- Emyr Penlan - crys glas a throwsus du.
- Rhodri Owen - crys coch a gwyn (tsiec) a jeans
Ddydd Mawrth:
- Glyn Wise (fy ngŵr radio!) - crys T du a jeans tri chwarter - a sbectol haul!
- Rhodri Meilir - cot ddu a jeans.
- Anthony Evans (Stwffio) - jeans a hoodie las a llwyd streipiog.
- Dewi Pws - trowsus lliw tywod. Cap ar ei ben.
- Trystan Mosgito - cot ledr a jeans.
Dyna'r cyfan am y tro, ond cofiwch - os ydych chi'n fy ngweld yn crwydro'r maes ac wedi gweld unrhyw un enwog, gadewch i fi wybod beth oedden nhw'n ei wisgo, fel y galla I adael I bawb arall wybod!
Hwyl!
Magi.
- Straeon a lluniau o ddydd i ddydd o'r Steddfod
- Blogio yn y Steddfod