Croeso seneddol
Bydd rhai yn cofio, yn nyddiau cynnar sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, John Elfed Jones, fel cadeirydd y pwyllgor ymgynghorol oedd yn llunio'r rheolau sefydlog, yn cynnal cyfarfodydd ar hyd a lled y wlad i ddweud wrth y bobl sut beth fyddai senedd newydd.
Ac un o'i ddymuniadau oedd y byddai'r Cynulliad neu senedd yng Nghaerdydd yn lle cartreol a chroesawgar. Yn lle na fyddai'n rhaid i werin gwlad deimlo'n chwithig neu'n ofnus wrth ymweld â'r lle.
Yn wir, rhagwelai le y gallai dinesydd fynd a dod iddo yn gwbl ddidramgwydd - fel cerdded i gartre cyfaill. Senedd y bobl fyddai hon heb ddim o rwysg a rhwystrau San Steffan
Doedd o ddim am i'r lle fod yn fawreddog nac yn grachaidd.
A chyda hynny yn fy nghof y piciais draw i adeilad y Senedd ddydd Sul i'w gweld nhw yn didoli ac yn gosod ymgeision cystadlaethau Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd i'w harddangos.
Yn wahanol i freuddwyd John Elfed nid oedd i'r Senedd y rhyddfynediad yr oeddwn yn ei ddisgwyl.
Gorchymyn, yn Saesneg, yn gyntaf i wagio pocedi a chael sganio eich bag yn nhraddodiad cael mynediad i faes awyr neu i wlad ddieithr.
A swyddogion yn eich galw'n "Syr" - gair sydd bob amser a rhyw islais trahaus neu gyhuddgar iddo ar wefusau rhywun mewn iwnifform.
Fel mae'n digwydd, bu'r rhaid i mi adael cyllell boced gyda'r porthor i'w chasglu eto ar y ffordd allan a hynny'n rhywbeth a oedd yn rhywfaint o ddirgelwch.
Ai'r athroniaeth y tu ôl i weithred felly yw nad oes fiw ichi fod yn fygythiad o fewn y muriau ond unwaith yr ydych oddi allan waeth faint o beryg ydych chi i bobl eraill?
- Straeon a lluniau o ddydd i ddydd o'r Steddfod