91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wrth eu llyfrau yr adnabyddir hwy

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 16:23, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

Pan oedd y canwr Geraint Griffiths yn cael ei holi ar y teledu yr wythnos o'r blaen y llyfr amlycaf ar y silffoedd tu cefn iddo oedd un am y darlledwr John Peel.

Er efallai iddo gael ei osod yno o fwriad fe fydda i'n hoffi gweld pobl yn cael eu holi gyda'u silffoedd llyfrau y tu ôl iddyn nhw - oherwydd o ddarllen y meingefnau yr ydw i'n teimlo mod i'n dod i'w hadnabod yn well.

Yn wir, mae'n demtasiwn yn aml i dalu mwy o sylw i'r llyfrau hyn nag i'r hyn sy'n cael ei ddweud.

"Wrth eu gweithredoedd yr adnabyddwch hwy," meddai'r Testament Newydd.
Nage, wrth eu llyfrau yr adnabyddwch chi nhw. Trwy ei lyfrau y dengys dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.

A chyda'r gwirionedd hwnnw mewn golwg y darllenais i am ddau lyfr Saesneg sydd newydd eu cyhoeddi: Hitler's Private Library gan Timothy W Ryback ac Oscar's Book gan Thomas Wright.

Yr oedd Hitler, erbyn gweld, yn ddarllennwr mawr. Yn darllen o leiaf un llyfr bob nos - weithiau fwy - ac erbyn diwedd ei oes fileinig yr oedd ganddo 16,000 o lyfrau mewn sawl llyfrgell breifat.

Beth mae'r silff hon yn ei ddweud am ei pherchennog?
Erbyn heddiw mae 1,200 ohonyn nhw yn Llyfrgell y Gyngres yn yr Unol Daleithiau.
Ymddengys yr ystyriai Don Quixote, Uncle Tom's Cabin, Robinson Crusoe a Gulliver's Travels yn hoff lyfrau ond ymhlith y llyfrau o'i eiddo y canolbwyntir arnyn nhw yn y llyfr mae The International Jew gan Henry Ford a Peer Gynt Ibsen.

Llyfrau'r dramodydd Eingl Wyddelig Oscar Wilde sy'n cael sylw yn Oscar's Books ac iddo fo yr oedd ymddangosiad a diwyg llyfr cyn bwysiced weithiau a'i gynnwys.

Byddai'n gwirion gyda rhwymiad cain a dalennau moethus.
Ond er ei gariad mawr tuag atynt tynged oer oedd i'w gyfrolau ac fe'u gwerthwyd gyda gweddill eiddo'i gartref i glirio'i ddyledion tra'r oedd o yng ngharchar Holloway.
Yn ôl awdur Oscar's Books yr oedd pobl yn rhuthro i mewn trwy ddrws agored y tŷ yn Chelsea i'w sbeilio er gwaethaf ymdrechion cyfeillion y dramodydd i'w rhwystro a bu'n rhaid galw'r heddlu.

Digwyddiad, yn ôl un adolygydd, sy'n dweud mwy am bobl y cyfnod nag am y casglwr ei hun a fyddai'n llunio nodiadau eglurhaol manwl mewn Groeg Clasurol yn rhai o'i lyfrau.
Y cyfan yn gwneud inni sylweddoli pethau mor oer, diwerth a diramant ymhlen blynyddoedd a ddaw fydd casgliad rhywun o eLyfrau!

A'n gwaredo.
Wilde hefyd, yr athrylith ffraeth a ymserchodd gymaint mewn ceinder, a fu'n ystyried ar un adeg, meddai, gyhoeddi argraffiad cyfyngedig o dri chopi o'i gerdd The Sphinx gan egluro;

"Un i mi, un i'r Llyfrgell Brydeinig a'r llall i'r Nefoedd. Er, yr ydw i rhwng dau feddwl yngly^n â'r Llyfrgell Brydeinig."
Oni fyddai wedi bod yn hyfryd cael ei weld yn dweud hynny ar deledu a'i silffeidiau o lyfrau tu ôl iddo?
Dyna fyddai darllen difyr.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.