O Notting Hill i donnau roc
Yn hogan ddrwg y Chwedegau newidiodd Caroline gwrs darlledu ym Mhrydain.
I bobl ifainc y cyfnod a oedd yn awchu am gerddoriaeth bop flaengar ar y tonfeddi yr oedd 'Radio Caroline' yn ddewis cyntaf - yr antidôt i ledneisrwydd y 'Light Programme' gan Anti'r 91Èȱ¬.
Dechreuodd Radio Caroline ddarlledu - yng anghyfreithlon - fis Mawrth 1964 wedi ei sefydlu gan Wyddel o'r enw Ronan O'Rahilly ar long yn y môr ger Felixstowe.
Angorwyd Radio Caroline y gogledd oddi ar arfordir Ynys Manaw a honno oedd i'w chlywed yng ngogledd Cymru.
Ar amrantiad bedyddiwyd y fenter ryfeddol yn 'Pirate Radio' gyda rhai o DJs amlycaf y dyfodol yn caboli eu dawn ar y tonnau, Tony Blackburn yn ymuno a'r criw yn 21 oed fis Gorffennaf 1964 er enghraifft. Un arall o'r morladron oedd Johnnie Walker.
Er yn anghyfreithlon yr oedd Caroline y tu hwnt o boblogaidd a phan gaewyd hi a gorsafoedd eraill a'i hefelychodd yn dilyn pasio'r 'Marine Broadcasting Offences Act' yn 1967 sefydlodd y 91Èȱ¬ Radio 1 yn syth gyda sawl un o'r morladron fel Tony Blackburn, Kenny Everett a John Peel yn cael torri eu cwys eu hunain yn gyfreithlon ar dir sych!
Ar fin ymddangos mae ffilm gan Richard Curtis a fydd yn ail fyw peth o gyffro a rhamant Radio Caroline, The Boat that Rocked gyda'r Cymro, Rhys Ifans (llun uchod) yn chwarae rhan DJ Gavin y mae Americanes a chwaraer gan January Jones yn syrthio mewn cariad ag ef.
Cyfle unwaith eto i arwr 'Notting Hill' wneud ei farc.