Kate Crockett yn westai
Gwahoddwyd Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio ar 91Èȱ¬ Radio Cymru i gyfrannu i'r blog yr wythnos hon. Bydd yn cyfrannu'n rheolaidd yn y dyfodol hefyd.
Deunydd Material Girl
Does dim angen darllen Vogue y diwrnodau hyn er mwyn darllen am ffasiwn.
Drannoeth yr Oscars, mae'r papurau newydd - tabloids a thrymion - yn llawn lluniau o'r ffrogiau, gyda geiriau arbenigwyr naill ai'n eu barnu'n arobryn neu'n eu cael yn syrthio'n brin o'r nod.
Nid pawb sy'n gwirioni'r un fath ac mae hynny'n arbennig o wir am feirniaid ffasiwn - sy'n galondid i'r rhai fel fi sy'n deall y nesaf peth i ddim am ddillad.
Ond yn ddiweddar cefais gwmni un sydd yn gallu gwahaniaethu rhwng ei bias cuts a'i princess seams - Elin Davies, y doctor steil, wrth ymweld ag arddangosfa o ddillad Madonna mewn hen fragdy oddi ar Brick Lane yn nwyrain Llundain.
Rhaid cyfaddef fy mod ar hyd y blynyddoedd, fel miloedd o ferched eraill ar draws y byd - wedi prynu ambell ddilledyn er mwyn efelychu'r arwres hon - ond yn ôl Elin, mae Madonna hefyd wedi dylanwadu'n fawr ar gynllunwyr ffasiwn ac ar yr hyn sy'n cael ei werthu ar y stryd fawr.
Ymhlith trysorau'r arddangosfa roedd y ffrog a wisgodd yn y fideo eiconig i'r gân Material Girl , y jîns a achosai'r hyn a elwir ar lafar gwlad yn builder's bum yn y fideo American Pie, a chasgliad go helaeth o'r dillad hyfryd a wisgodd Madonna i chwarae rhan Eva Peron yn y ffilm Evita.
Byddai'r casgliad hwn ynddo'i hun yn werth ymweliad i unrhyw ffan - ond rhaid cyfaddef i'r profiad gael ei ddifetha i raddau gan fod y dillad wedi'u gosod ar ddymis di-chwaeth gyda gwallt gosod synthetig.
Edrychai'r ddau ffigwr a chwifiai oddi ar falconi'r Casa Rosada yn debycach i Ken a Barbie nag i Jonathan Pryce a Madonna (heb sôn am Juan ac Eva Peron).
Yn ogystal â'r dillad, mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys cloriau cylchgronau a recordiau, posteri, crysau T, a phob math o fân drugareddau fyddai wedi hen gyrraedd y bin sbwriel pe baen nhw'n eiddo i feidrolyn cyffredin:
Hen gerdyn credyd (wedi'i dorri'n ei hanner, wrth gwrs) a thudalennau o Ffeil o Ffaith Madonna o'r 80au. Mae'n amlwg y byddai gweithio fel dyn y bins yn Hollywood yn swydd allai dalu'i ffordd.