Y Beibl yn llyfr dieithr
Bardd y Frenhines fu'n mynegi pryder fod y Beibl yn llyfr dieithr i gymaint o bobl ifainc sy'n astudio llenyddiaeth ac ymhel â sgrifennu heddiw.
Yn anffyddiwr ei hun, nid cwyn grefyddol, ydi un Andrew Motion - ond un lenyddol gan waredu mai dim ond y crap lleiaf sydd gan lawer o fyfyrwyr heddiw ar straeon mawr y Beibl a oedd mor gyfarwydd i genedlaethau blaenorol.
Dod â'r Beibl yn ôl
Mae Motion yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Llundain ac mewn cyfweliad diweddar galwodd am ailedrych ar faes llafur ysgolion uwchradd er mwyn goleuo pobl yn y Beibl.
Mae'r diffyg goleuni, meddai, yn ei gw eud yn amhosib i fywyrwyr ddeall gweithiau beirdd mawr Saesneg fel Milton.
"Os yw pobl yn meddwl mai gwthio crefydd i lawr corn gyddfau pobl yw hyn dydyn nhw ddim yn meddwl ddigon caled am y peth," meddai gan ychwanegu ei fod fwy i'w wnewud â grym geiriau i gysylltu a gwirioneddau mawr bywyd ac hefyd hanes dylanwad yr iaith ar y straeon hynny.
Beth am Gymru?
Gyda thrai yn hanes ysgolion Sul mae rhywun yn cael ei bryfocio i holi tybed a ddylai ofnau Andrew Motion fod yn destun pryder yng Nghymru hefyd gyda'n llenyddiaeth ninnau mor gyforiog o ddylanwadau Beiblaidd o ran arddull yn ogystal ag o ran cynnwys.
Dylanwad drwg
Nid pawb fyddai'n cydweld, fodd bynnagag, ai cwbl lesol fu'r dylanwad hwnnw.
Er enghraifft, yn nofelydd ac yn un o feistri'r stori fer yn Lloegr yn ei ddydd ystyriai W Somerset Maugham ddylanwad y Beibl ar rai o sgrifenwyr Lloegr fel peth niweidiol.
"Yn fy meddwl i cafodd Beibl y Brenin James ddylanwad niweidiol ar ryddiaith Saesneg," meddai gan ddisgrifio'r Beibl fel llyfr estron o ran ei arddull a'i ddelweddau.
Mae'n cynnwys delweddau "nad oes ganddynt ddim i'w wneud â ni" meddai.
Do, cydnabyddodd fawredd ac ardderchogrwydd y sgrifennu ond dyna'n union, yn ei olwg ef, oedd yn ei wneud mor ddieithr i ddull naturiol y Sais o sgrifennu.
"Mae'r union ormodiaethau, y trosiadau gorflodeuog yn estron i'n hathrylith ni," meddai wrth ddadlau am yr hyn a alwai'n ieithwedd Saesneg blaen ac onest rhydd o addurniadau a blas y pridd arni.
gwersi America
Yn y cyswllt hwn dadleuodd fod gan lenorion Saesneg Lloegr lawer i'w ddysgu oddi wrth yr Americanwyr.
"Gan fod sgrifennu Americanaidd wedi osgoi gormes Beibl y Brenin James," meddai.
Yn hytrach mae eu harddull hwy wedi ei sylfaenu ar yr iaith fyw o'u cwmpas.
"Ac ar ei gorau y mae iddi uniongyrchedd a bywiogrwydd a grym sy'n gwneud i'n dull mwy wrbân ni ymddangos yn swrth."
Ac mae'n ychwaneu iddi fod o fantais i lenyddiaeth Americanaidd i gymaint o sgrifenwyr fod yn ohebwyr papurau newydd wedi eu rhoi ar ben ffordd i ddefnyddio iaith fyrlymus yr alwedigaeth honno.
Mae llawer wedi newid er pan oedd o'n sgrifennu hyn yn 1938 wrth gwrs - ond mae'n dal yn ddifyr dyfalu faint gwell neu faint gwaeth fyddai rhyddiaith y Gymraeg lle bu'r Beibl yn gymaint o ddylanwad nid yn unig ar ein ffordd o fyw ond ein ffordd o sgrifennu hefyd.
Ac a yw'r arddull honno mor ddieithr i lenorion Cymraeg heddiw ac a ddywed Andrew Motion yw hi i sgrifewnyr Saesneg?
Tybed fydd yna Amenio ei eiriau yr ochr hon i Glawdd Offa?